
Mae Termau ac Amodau Imperialis fel a ganlyn:
Diffiniadau
O dan yr Amodau ystyr y geiriau a’r cymalau canlynol fydd :-
Cleient: unrhyw un sy’n defnyddio ac yn prynu’r Gwasanaethau.
Amodau: y Termau ac Amodau Safonol hyn;
Ffioedd: y ffioedd a’r costau sy’n ddyledus gan y Cleient o dan yr Amodau hyn;
Gwasanaethau: y gwasanaethau y mae Imperialis Cyf. wedi cytuno i’w darparu i’r Cleient.
Gwasanaethau yn Gyffredinol
Mae’r Cleient yn cytuno darparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol i Imperialis Cyf., yn y fformat y mae Imperialis Cyf. yn gofyn amdano, er mwyn galluogi Imperialis Cyf. i ddarparu’r Gwasanaethau hynny.
Nid yw Imperialis Cyf. yn gorfod rhoi’r Gwasanaethau hynny tan fod y Cleient yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn darparu’r Gwasanaethau hynny. Dylai gwybodaeth fel hyn gael ei roi o fewn 5 niwrnod o’r amser y mae’r Cleient yn gofyn am Wasanaethau perthnasol, neu ddyddiad diweddarach fel y cytunir gan Imperialis Cyf.
Rhwymedigaethau Imperialis Cyf
Bydd Imperialis Cyf. yn gwneud pob ymdrech resymol i roi’r Gwasanaethau i’r Cleient o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Ni roddir unrhyw warant y bydd y gwasanaethau yn golygu fod cais llwyddiannus am grant yn cael ei wneud.
Rhwymedigaethau’r Cleient
Drwy hynny mae’r Cleient yn ymgymryd ac yn gwarantu i Imperialis Cyf. i gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data 2000 a deddfwriaeth berthnasol arall.
Mae’r Cleient yn cadarnhau fod unrhyw wybodaeth a gyflwynir gan y Cleient mewn perthynas â darpariaethau’r Gwasanaethau yn gywir, cyflawn a gwir.
Cyfraddau
Y cyfraddau fydd y rheini y cytunwyd arnynt rhwng Imperialis Cyf. a’r Cleient a hynny’n ysgrifenedig ar yr adeg pan wnaeth y Cleient osod ei archeb am y Gwasanaethau.
Taliad
Gwneir y Taliad am Wasanaethau gan y Cleient i Imperialis Cyf. o fewn 30 niwrnod o ddyddiad yr anfoneb.
Cyfraith Lywodraethol ac Awdurdod
Llywodraethir yr Amodau hyn gan, ac fe’i llunnir yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
Parti sy’n Cytundebu
Imperialis Cyf. (rhif y cwmni 6115883) sydd â’i swyddfa gofrestredig ym Maesgwyn, Heol Gwynfe, Ffairfach, Llandeilo, Sir Gâr, Cymru, DU , SA19 6UY
|