Dros y 15 mlynedd diwethaf mae Julie Williams, y Partner Ymgynghorol
wedi cynorthwyo mudiadau i ddod o hyd i filiynau o bunnoedd o Nawdd Ewropeaidd ac mae ganddi brofiad
helaeth o ddelioâ phob cam o’r broses o wneud cais am nawdd.
Gan ei bod yn gweithio o Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru, bydd y gwasanaeth grantiau
yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion pob cleient. Gellir gwireddu’r cyfleoedd am nawdd o’r
Rhaglen Gydgyfeirio a Fframwaith 7 trwy gymorth yr arbenigedd sydd gan yr Ymgynghoriaeth Nawdd Ewropeaidd hon.
Os yw eich mudiad wedi’i leoli mewn rhanbarth Gydgyfeirio, e.e. Gorllewin Cymru a’r
Cymoedd neu Gernyw, yna mae cyfleoedd nawdd ar gael yn arbennig
i chi drwy’r rhaglen Gydgyfeirio a
gall Imperialis eich arwain trwy gymhlethdodau’r gwaith
o wneud cais am nawdd er mwyn eich helpu chi i redeg prosiectau
sy’n cyfrannu at ddatblygiad economaidd y rhanbarth.
Mae rheolaeth gadarn o brosiect yn rhan hanfodol o redeg
prosiect llwyddiannus a gellir cynnig cyngor ar y systemau
gorau i’w defnyddio i sicrhau fod eich prosiect yn llwyddo o ran ei amcanion.
Mae’r ymgynghoriaeth yn arbenigo mewn nawdd Ewropeaidd ond mae’n gallu cynnig cyngor a
chymorth i lanw ffurflenni cais ar gyfer unrhyw ffynhonnell
nawdd. Bydd Imperialis yn asesu meini prawf y rhaglen nawdd
ac yn llanw’r ffurflen gais er mwyn sicrhau’r
cyfle gorau posib o gyflwyno cais llwyddiannus am arian.
Cefnogir Imperialis gan Rhaglen Ddeillio Cymru. |