Cydgyfeirio
Gorllewin Cymru a’r Cymoedd sydd wedi derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth (£1.4 biliwn), a adwaenir yn Cydgyfeirio, o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen newydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd rhwng 2007–2013.
Mae’r Cydgyfeirio yn olynu rhaglen Amcan 1 2000–2006, ac yn ddaearyddol bydd yn cynnwys 15
o awdurdodau lleol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae rhaglenni Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys nawdd o ddwy Gronfa Strwythurol
Ewrop wahanol : Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd tua £856
miliwn o arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cael ei sianelu trwy Lywodraeth Cynulliad
Cymru er mwyn cynorthwyo’r rhanbarth i ddatblygu ei economi i fod yn ganaladwy a chystadleuol
trwy fuddsoddi yn yr economi wybodaeth a dealltwriaeth a chynorthwyo busnesau newydd a rhai
sydd eisoes yn bodoli i dyfu. Hefyd, bydd yn canolbwyntio ar adfywhau cymunedau mwyaf difreintiedig
Cymru, taclo newid yn yr hinsawdd a gwella trafnidiaeth. Bydd rhyw £570 miliwn o Gronfa Gymdeithasol
Ewrop yn cael ei ddefnyddio i daclo segurdod economaidd, gwella sgiliau a chyflogaeth. Gyda’i gilydd,
bydd yr arian yn dod i fwy na £1.4 biliwn o wariant Cydgyfeirio, a fydd wedi’i gyfuno ag arian cyfatebol
yn dod â’r buddsoddiad cyfan i £3.2 biliwn i ranbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
(Ffynhonnell: WEFO)
Prif amcanion FP7: Rhaglenni penodol
Mae meddu ar wybodaeth yn ganolog i Strategaeth Lisbon yr Undeb Ewropeaidd er mwyn creu’r
"economi mwyaf deinamig a chystadleuol yn y byd sydd wedi’i seilio ar wybodaeth". Mae’r 'triongl
gwybodaeth' – ymchwil, addysg a dyfeisgarwch – yn ffactor craidd i ymdrechion Ewrop i gwrdd â nodau uchelgeisiol Lisbon. Cynhelir nifer o raglenni, mentrau a mesurau i gynorthwyo gwybodaeth ar
lefel yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Seithfed Raglen Fframwaith (FP7), gyda chyllideb o EUR 50,521 miliwn, yn dod â holl fentrau’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud ag ymchwil ynghyd o dan yr un to gan chwarae ran hanfodol wrth ymdrechu i
gyrraedd nodau o dwf, bod yn gystadleuol a chyflogaeth; ynghyd â Rhaglen Fframwaith ar gyfer bod yn Gystadleuol a Dyfeisgar, newydd, a rhaglenni Addysg a Hyfforddiant, a Chronfeydd Strwythurol a
Chydlyniant ar gyfer cydgyfeirio rhanbarthol a bod yn gystadleuol. Hefyd mae’n gonglfaen allweddol o
ran Ardal Ymchwil Ewrop. Mae amcanion cyffredinol FP7 wedi’u categoreiddio i mewn i bedwar categori: Cydweithredu, Syniadau,
Pobl a Galluoedd. Mae yna raglen benodol sy’n cyfateb i brif feysydd polisi
ymchwil yr Undeb Ewropeaidd
ar gael i bob un o’r amcanion. Mae pob un o’r rhaglenni penodol
yn gweithio gydai’i gilydd er mwyn
hybu ac annog creu pegynau o ragoriaeth (gwyddonol) Ewropeaidd.
(Ffynhonnell: CORDIS)
Am Ffynonellau nawdd eraill edrychwch i weld yr adran ar Cysylltiadau
|