english | cymraeg
   
Nwyddau a Phrisiau
Profforma’r Prosiect
Ffynonellau Nawdd Ewropeaidd
Cysylltiadau a gwybodaeth bellach
Tystebau a rhestr Gleientiaid
Cysylltu â Ni
Cysylltiadau a gwybodaeth bellach

Ynglŷn â Julie Williams: Sgiliau a Chymwysterau

Sgiliau:

Mae gan Julie Williams, Cyfarwyddwr y Cwmni a’r Partner Ymgynghorol fwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes Nawdd Ewropeaidd ac mae wedi gweithio’n agos gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a hefyd profiad o gyd weithio gyda WEFO a’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r amrywiaeth o gysylltiadau sydd ganddi yng Nghymru, Prydain a’r Sefydliadau Ewropeaidd yn cynnig rhwydwaith ddefnyddiol o gysylltiadau. Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n rhan amser fel Uwch Swyddog Nawdd Allanol i Brifysgol yng Nghymru gan weithio gyda phob math o nawdd allanol, ond yn arbenigo mewn nawdd Ewropeaidd. Mae’r wybodaeth sydd ganddi o weithio yn y swydd hon yn sicrhau fod gan yr ymgynghoriaeth y wybodaeth ddiweddaraf ar raglenni nawdd Ewropeaidd a hefyd y prif ffynonellau nawdd eraill. Gan fod Julie wedi astudio Polisïau’r Undeb Ewropeaidd mae’n golygu fod ganddi’r gallu i gynnig cyngor ar sut i ddod o hyd i ffynonellau nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd. Gyda 5 mlynedd o brofiad o weithio mewn Llywodraeth Leol a 10 mlynedd o weithio ym maes Addysg Uwch, mae gan Julie gyfoeth o brofiad o weithio yn y maes hynod gystadleuol hwn.

Cymwysterau:

Astudiaethau Cymunedol Ewrop BSc. Econ, Prifysgol Cymru, Caerdydd
Siambr Fasnach Paris, Diploma ym Musnes Ffrainc
Prifysgol Nice, Certificat d’Etudes Superieures de la Communaute Europeenne
Prifysgol Pisa, Cwrs Iaith Eidaleg (Corsi di lingua e di cultura italiana per stanieri)

Rhugl yn Ffrangeg, Cymraeg ac mae’n siarad Eidaleg.

Cysylltiadau â gwybodaeth grantiau:

Bydd y cysylltiadau sydd yma yn mynd â chi i wefannau sy’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth ar Ffynonellau nawdd Ewropeaidd:

Wefo
www.wefo.wales.gov.uk

Cordis
www.cordis.lu

Grantiau’r Undeb Ewropeaidd
http://ec.europa.eu/grants/index_en.htm

Swyddfa Ymchwil a Dyfeisgarwch Prifysgol Abertawe
http://www.swan.ac.uk/research_innovation/ResearchInnovationOffice

Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru
http://www.wwec.org.uk

Canllawiau Cyngor Sir Cernyw i Nawdd Ewropeaidd http://www.cornwall.gov.uk/index.cfm?articleid=15361

 

Registered in England & Wales 6115883 Copyright 2007 Imperialis Ltd
Deddf Diogelu Data | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau